SL(6)366 – Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Ffurf Awdurdodiadau Dros Dro) (Cyfansoddion Cobalt(II)) (Cymru) 2023

Cefndir a diben

Mae Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Ffurf Awdurdodiadau Dros Dro) (Cyfansoddion Cobalt(II)) (Cymru) 2023 (“y Rheoliadau”) yn rhoi awdurdodiad dros dro ar gyfer defnyddio pedwar cyfansoddyn Cobalt(II) fel ychwanegion mewn bwyd anifeiliaid, yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn yr Atodlenni.

Gwneir y Rheoliadau drwy arfer y pŵer i roi awdurdodiad brys yn Erthygl 15 o Reoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 22 Medi 2003 ar ychwanegion i'w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid. Gall Gweinidogion Cymru arfer y pŵer hwn mewn achosion penodol lle mae angen awdurdodiad brys i sicrhau bod lles anifeiliaid yn cael ei ddiogelu. 

Gall awdurdodiad dros dro bara am uchafswm o bum mlynedd.  Mae’r cyfnod awdurdodi dros dro ar gyfer pob un o’r pedwar cyfansoddyn Cobalt(II) y mae’r Rheoliadau’n eu hawdurdodi yn para o 15 Gorffennaf 2023 tan ddiwedd 14 Gorffennaf 2028.

Y weithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnod pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu’n codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodir bod y Memorandwm Esboniadol yn rhoi’r esboniad a ganlyn ar gyfer defnyddio’r pŵer awdurdodi brys:

18. Mae’r cyfansoddion cobalt hyn wedi bod ar y farchnad ers 1970 ac nid oes gan yr ASB unrhyw dystiolaeth eu bod yn anniogel.

19. Rhoddir awdurdodiadau ychwanegion bwyd anifeiliaid am gyfnodau o 10 mlynedd ond gellir eu hadnewyddu trwy gais. Rhaid gwneud cais i adnewyddu flwyddyn cyn i’r awdurdodiad presennol ddod i ben.

20. Bydd yr awdurdodiadau presennol ar gyfer y pedwar cyfansoddyn cobalt hyn yn dod i ben ym Mhrydain Fawr ar 15 Gorffennaf 2023. Oherwydd camgymeriad ar ran y diwydiant, ni wnaed unrhyw gais i adnewyddu erbyn y dyddiad cau statudol, sef 14 Gorffennaf 2022. Cyflwynwyd cais newydd i awdurdodi pob un o’r pedwar cyfansoddyn cobalt ym mis Tachwedd 2022. Nid oes digon o amser i fwrw ymlaen â’r cais hwn trwy’r broses asesu cynhyrchion rheoleiddiedig lawn ac i ddeddfwriaeth ddod i rym cyn i’r awdurdodiadau presennol ddod i ben.

21. Heb gamau i ymgymryd ag awdurdodiad dros dro brys o dan y pwerau perthnasol sydd ar gael, ni fyddai’r pedwar cyfansoddyn cobalt dan sylw ar gael yn gyfreithlon ar y farchnad ym Mhrydain Fawr o 15 Gorffennaf 2023 ymlaen.

22.  Yn dilyn gwaith ymgysylltu ac ymgynghori helaeth â rhanddeiliaid a’r diwydiant, mae tystiolaeth gymhellol i ddod i’r casgliad bod perygl difrifol y bydd effaith negyddol a difrifol ar les anifeiliaid (bron yn syth) os na fydd y cyfansoddion cobalt hyn ar gael mewn bwyd anifeiliaid. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ddewisiadau eraill yn lle’r cyfansoddion hyn sy’n toddi mewn dŵr a allai fodloni gofynion maethol.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

4 Gorffennaf 2023